Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (189) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2 a 4 i 15. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Polisi am yr Iaith Gymraeg - Ymateb i Adroddiadau ar y Mentrau Iaith a Chymunedau Cymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.27
4 Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014
Dechreuodd yr eitem am 14.56
NDM5473 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Atal Twyll Tai Cymdeithasol (Darganfod Twyll) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014
Dechreuodd yr eitem am 14.56
NDM5472 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl: Darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.58
NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach i ddinasyddion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach i ddinasyddion.
2. Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.
4. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.
5. Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Dadl: Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â Thai
Dechreuodd yr eitem am 15.45
NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael
ar bobl ac ar eu hiechyd a’u lles;
2. Yn nodi canfyddiadau ymchwil Llywodraeth Cymru
“Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice
Review” fel sail ar gyfer gweithredu pellach; ac
3. Yn galw ar sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, cynnwys ‘ac argymhellion allweddol’ ar ôl ‘canfyddiadau’
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael ar bobl ac ar eu hiechyd a’u lles;
2. Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau
sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf
effeithiol pan maent yn canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a
chydweithio rhwng asiantaethau;
3. Yn nodi canfyddiadau ac argymhellion allweddol
ymchwil Llywodraeth Cymru “Wales Anti-Social behaviour:
Policy and Practice Review” fel sail ar gyfer gweithredu
pellach;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai; a
5. Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Addysg (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Weinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Addysg (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar cynnig
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
11 |
4 |
52 |
Derbynwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.41
Daeth y cyfarfod i ben am 16.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Mawrth 2014